Dyfrig Evans

Ar ôl i Topper chwalu yn 2001, aeth pethau'n weddol distaw o ran cerddoriaeth i Dyfrig Evans ac fe drodd ei law at actio am sbel gyda rhannau yn y cyfresi Emyn Roc a Rôl a Talcen Caled, ond yn 2006 ailymddangosodd fel canwr gyda'i albym unigol gyntaf, Idiom.

Mae'r albym yn gymysgedd o ganeuon Cymreag a Saesneg, gyda dylanwad sin indie diwedd y '90au yn amlwg o'r cychwyn – cyfnod lle gafodd Topper gymaint o lwyddiant, yn cynnwys recordio sesiwn Peel. Rhywbeth arall sy'n amlwg yw bod y blynyddoedd maith (sori Dyfrig!) heb wneud difrod i un o leisiau mwya adnabyddus yr SRG.

Dyfrig Evans

Dyfrig Evans

idiom Idiom 2006 - Rasal