Neu Dai Dirgel i’w ffrindiau. Neu Cai Strachen hyd yn oed. Daeth ei EP cyntaf, Troubadour of the Unknown allan ar Peski yn 2005. Mae sŵn y gitâr ar ‘Steve Mcqueen’ yn 60au pur, gyda effeithiau lo-fi, ond hynod effeithiol, ar Red Matthew. Ond alaw syml Caradog Puw wnaeth afael ar gynulleidfa C2, tra bo’r fideo i El Torro ar Bandit yn glasur. Un dyn, gitâr a bocs ailadrodd oedd set fyw Dai yn draddodiadol, ond bellach mae’n defnyddio banjo-ukes a siwtces tra’n chwarae’n fyw. Ymddangosodd ar Bandit ym mis Tachwedd 2006 i roi blas o’r traciau newydd fydd yn cael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd.
David Mysterious
Troubadour Of The Unknown (EP) 2005 - Peski