Right Hand Left Hand

Right Hand Left Hand. Dau law dde, dau law chwith, dau gitar, dau drumstick, bocsus a bocsus o effeithiau electroneg ddiddorol a digon o syniadau cerddorol i lenwi cwrs gradd yn y pwnc. Mae’r ddeuawd yma sy’n cyfnewid offerynnau o fewn caneuon yn benderfynol o wthio’u gallu technegol i gyfeiriadau annisgwyl. Mae Bernie a Rhodri Viney hefyd yn aelodau o’r band ôl-roc Vito, Bernie yn chwarae’r drymiau i Eugene Francis Jr and the Juniors, a Rhodri yn gigio fel artist unigol o bryd i’w gilydd o dan yr enw Broken Leaf.

www.myspace.com/righthandlefthand.

Right Hand Left Hand

Right Hand Left Hand