Bwystfil metal trwm, dwys a dwfn o Gaerdydd yw Black Cesar. Mae’r pedwar aelod – Clint, Clem George a Chris i gyd wedi bod mewn bandiau eraill dros y blynyddoedd, gan gynnwys Mondo Tranz Shop a Taint. Mae cerddoriaeth y band yn ategu tôn a sain yn hytrach na geiriau ac yn ffafrio rhythmau newidiadol dros strwythr pop llawer o fandiau metal de Cymru. Mae’n anodd disgrifio Black Cesar heb ddefnyddio geiriau fel Doom, Stoner a Sludge, felly ‘na i ddim. Doom, Stoner, Sludge.
Black Cesar