Nid yn unig ydy Fflur Dafydd yn cyfansoddi ar y gitâr a’r piano, mae hi hefyd yn barddoni ac yn ysgrifennu nofelau. Roedd hi’n aelod o’r band ‘Y Panics’ ond bellach mae hi’n perfformio’n unigol gyda’r ‘Barf.’ Mae ei cherddoriaeth yn amrywiad o jazz, gwlad, ffync a pop. Yn 2005, rhyddhaodd Fflur ei halbym cynta, ‘Coch Am Weddill Fy Oes’ ar label Kissian. Recordiwyd yr albwm yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.Yn 2007, fe gefnodd Fflur ar ei gitâr acwstig a phrofi’r gitâr drydanol a rhyddhau yr ail albym, ‘Un Ffordd Mas’. Ceir dimensiwn newydd a chyffrous i’w sain unigryw, gyda dylanwad soul cryf i’w glywed. Mae’r caneuon wedi’u haenu gydag offerynnau trydanol ac acwstig, gan gyfuno curiadau ffres a rhythmig gyda chanu angerddol, hypnotig.
AELODAU
Fflur Dafydd - llais, gitâr acwstic, piano drydan
Rhys James ("Y Barf") - gitâr drydan, piano drydan
Iestyn Jones - bas
Eilian Jones - offerynnau taro
Jon Bradford Jones - drymiau
William Bott - ffliwt
Iwan "Llangain" Evans – allweddellau
Fflur Dafydd
Un Ffordd Mas (Albym) 2007 – Rasal
Coch Am Weddill Fy Oes 2005 - Kissan