Mae Frizbee wedi dod yn hynod boblogaidd, bron dros nos! Enillon nhw wobr Roc a Phop Radio Cymru fel y grŵp a ddaeth i amlygrwydd yn ystod 2004 a hefyd artist pop y flwyddyn. Ers hynny, mae’r band o Ffestiniog wedi bod yn gigio’n galed ledled Cymru ac wedi rhyddhau 3 crynoddisg Cymraeg ac un demo Saesneg ar label eu hunain. Mae Frizbee wedi bod yn rhan o daith ysgolion Bandit C2 yn 2005 a 2006. Yn 2005 hefyd, daeth Frizbee i’r brig yn siart Mawredd Mawr – 100 Uchaf Cymru gyda’r gân ‘Dan Ni’n Ôl.’
AELODAU
Ywain Gwynedd - prif leisydd + gitâr
Owain Jones - llais + bas
Jason Hughes - llais + drymiau
Frizbee
Yn fyw o Maes B 2006 – Cosh
Gig Patagonia 2006
Pendraw'r Byd 2006 – Cosh
Lennonogiaeth 2004 – Cosh
Hirnos 2004 – Cosh