Ffurfiwyd Genod Droog yn 2005 efo bwriad o gael hwyl wrth greu cerddoriaeth. Mae hyn yn dod drosodd yn eu perfformiadau byw. Uchafbwynt yr Eisteddfod 2006 oedd y Droogs yn chwarae ar Lwyfan 2 yn Maes B. Maen nhw'n dal i greu llawer o sylw yn enwedig ar ôl chwarae yn y BBC ElectricProms yn Llundain. Efo'r albym bron wedi ei orffen, sydd wedi cael ei recordio yn Ffrainc, mae’r dyfodol yn edrych yn addawol iawn i'r Genod Droog.
AELODAU
Dyl Mei - Prif Gitâr, llais, samplwr
Mr Phormula - Rapio, ‘beat box’, synth
9 Tonne - Rapio, ffliwt, boran
Kim De’Bills – Gitâr fas, allweddellau
Gethin Evs – drymiau, llais
Genod Droog