Gwilym Morus

Mae cynnyrch unigol Gwilym Morus yn acwstig a gwerinol ac yn wahanol iawn i gerddoriaeth y band ffync y mae’n brif leisydd arno - Drymbago. Yn 2005, rhyddhaodd Gwilym Morus ei albym cyntaf, ‘Traffig,’ ar label Rasal. Hefyd yn 2005, fe weithiodd Gwilym ar gynllun Gwybodaeth Amgen ac ymweld â Phalestina lle bu’n cydweithio â dau gerddor o Fethlehem. Crëwyd EP o’r cynllun hwn ac roedd unrhyw elw yn mynd at ariannu’r cynllun a galluogi’r ddau gerddor o Fethlehem i ddod i Gymru i gydweithio gyda Gwilym.

AELODAU

Gwilym Morus - llais a gitâr
Lowri Cunnington - ail lais
Liz Dow - soddgrwth 1
Tim Cotter - soddgrwth 2
Henry Horrel – piano

Gwilym Morus

Gwilym Morus

Traffig (albym) Mawrth 2005 - Rasal
Gwybodaeth Amgen – O Fethlehem i Fangor (EP) Rhagfyr 2005 - Rasal
Dan y Nen (albym) Awst. 2006 - Rasal