Hyd yma, mae Alun Tan Lan wedi rhyddhau dau albwm gyda Rasal – Aderyn Papur yn 2004 a Y Distawrwydd yn 2005. Rhwng bod ar daith gyda Cerys Matthews, chwarae’r gitâr i Euros Childs a chwarae’r bas, banjo a mandolin i Gwyneth Glyn, mae o’n gobeithio rhyddhau albwm arall eleni ar ei label ei hun – Aderyn Papur. Pan oedd yn yr ysgol, roedd Alun yn arfer chwarae mewn band o’r enw ‘Dail Te Pawb!’ Dywedodd The Observer ei fod ar frig y don newydd o dalent Cymraeg, felly pwy dyn ni i anghytuno?
Alun Tan Lan
Aderyn Papur (albym) 2004 – Rasal
Y Distawrwydd (albym) 2005 – Rasal
Yr Aflonydd (albym) 2007 – Aderyn Papur