Jakokoyak

Cychwynnodd Jakokoyak – neu Rhys Edwards i'w fam – recordio cerddoriaeth o ddifri tra’n astudio yn y coleg, a chafodd ei flas gynta o'r diwydiant pan gafodd ei gân Eiddil ei chynnwys a'r A Step in the Left Direction a ryddhawyd ar label Boobytrap. Mae Jakokoyak yn gweu elfennau o Ambient, Triphop a Folktronica at ei gilydd i greu un o synau perta a mwyaf unigryw’r SRG. Cerddoriaeth soffistigedig, uchelgeisiol yw hwn sydd wedi ennill dilyniant iddo tu hwnt i Gymru. Arwyddodd Rhys â’r label Peski, yn rhyddhau ei albym cyntaf, Am Cyfan Dy Pethau Prydferth yn 2003. Roedd yr albym yn boblogaidd tu hwnt yn Japan, felly doedd dim syndod ei weld o'n mynd draw yn 2005 i gefnogi'r Super Furries a chwarae ambell sioe fel y prif artist. Daeth yr EP Flatyre allan yn 2006, a gorffennodd Rhys y flwyddyn gyda gigs llwyddiannus yn Lloegr ac un yn Yr Alpau.

Jakokoyak

Jakokoyak

Am Cyfan Dy Pethau Prydferth (albym) 2003 - Peski
Flatyre (ep) 2006 - Peski