Kentucky AFC

Band o ogledd Cymru a newidiodd eu henw o Cacen Wy Experience ac arddull eu cerddoriaeth yr un amser. Yn 2003, recordwyd eu sengl hynod boblogaidd, ‘Bodlon’ ar gyfer Recordiau R-bennig. Yn yr un flwyddyn fe wnaethon nhw ryddhau ‘Outlaw/11’ a cynhyrchwyd y sengl gan Gorwel Owen – sydd hefyd wedi gweithio gyda Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Maen nhw hefyd wedi recorio sesiynau i Radio 1 a Radio Wales. Mae gan Huw o’r band brosiect unigol, Mr Huw, ac mae Gethin hefyd yn chwarae drymiau i’r Genod Droog.

AELODAU

Endaf Roberts -  gitar flaen / llais
Huw Owen – gitar fas / lais
Gethin Evans - drymiau

Kentucky AFC

Kentucky AFC

Bodlon (sengl) 2003, Recordiau R-bennig
Outlaw/11 (sengl) 2003 Complete Control
Kentucky AFC  (albym) 2005, Boobytrap
Iasobe (EP byw) 2005, Boobytrap