Mae Lowri yn gantores o Sir Benfro a deithiodd yn eang cyn symud yn ôl i Gymru i recordio. Treuliodd chwe mlynedd yn Newcastle, yna cyfnod o deithio yn Ne America cyn dod yn ôl i'r hen wlad a dechrau gyrfa fel artist unigol. Un o'r pobl wnaeth ledaenu'r gair am Lowri Evans yn y dyddiau cynnar oedd Jackie Hayden – wnaeth sgwennu am U2 yn Hot Press cyn i unrhywun fod wedi clywed amdanynt. Wnaeth e gynnwys un o draciau Lowri ar CD Celtic Connections yn 2000. Gall wrandawyr glywed elfennau o ganu jazz, gwerin, blws a roc yng ngherddoriaeth Lowri, sydd bellach yn perfformio'n fyw gyda'r gitarydd Lee Mason.
Lowri Evans
Clyw Sibrydion – Albym (CD) ar Rasp, 2006