Prosiect unigol Huw Owen, sy’n aelod hefyd o Kentucky AFC. Mae ei gerddoriaeth yn Lo-Fi, wedi ei recordio ar beiriant 8 Trac ond yn hynod o fachlyd, gan arddangos ei ddawn naturiol gyda geiriau ac alawon.
Roedd ei anthem slacer-roc Gwyneb Dod yn un o uchafbwyntiau 2006 a’n ddatganiad o fwriad gwych i’r label feinyl saith modfedd AM. Mae EP ar ffurf mp3 i’w gael ar Recordiau Kimberley a bydd ei albym newydd i’w gael ar label newydd Copa yn fuan.
Mr Huw
Gwyneb Dob / Morgi Mawr Gwyn (Sengl) 2006 - Recordiau AM
Llond Lle o Hwrs a Lladron (Albym) 2007 – Copa