Gai Toms (Mim Twm Llai)

Mae Gai Toms wedi bod yn ddyn prysur. Wedi gollwng yr enw Mim Twm Llai, mae Gai wedi mynd ati i recordio dan ei enw ei hun, a’r canlyniad yw Rhwng y Llygru a’r Glasu, albym gysyniadol ‘gwyrdd’ gynta’r byd Cymraeg.

Mae’r thema eco-gyfeillgar yn mynd ymhellach na’r geiriau, gyda’r awdur yn defnyddio egni glan i recordio’r albym, sydd hefyd wedi ei becynnu mewn clawr wedi ei ailgylchu. Mae hyd yn oed y drymiau sydd i’w clywed ar y CD wedi eu hailgylchu o hen fareli a sgrap! Medde Gai:

“Do’n i’m eisiau’r cysyniad fod yn y caneuon yn unig, rwyf wedi trio bod mor egwyddorol a phosib wrth ei gynhyrchu hefyd, gan obeithio bod hynny’n ychwanegu at ei s?n a’i naws, ac yn g wneud datganiad yr un pryd.”

Label Gai, Sbensh (www.sbensh.com) sy’n rhyddhau’r albym ac mae Gai hefyd yn gweithio ar albym Saesneg a fydd ar gael yn hwyrach yn y flwyddyn.

MySpace Gai Toms

Gai Toms (Mim Twm Llai)

Gai Toms (Mim Twm Llai)

Yr Eira Mawr (Album) Crai - 2006
Straeon Y Cymdogion (Albym) Crai - 2005
O'r Sbensh (Albym) Crai - 2002