Plant Duw

Oce ta, pwy ydy aelodau’r band gwallgo Plant Duw ac o ble mae’r plantos bach wedi dod? Mae tri brawd yn y band – Conor a Rhys Martin ar y gitars a llais a’r brawd bach, Sean, ar y cornet Hefyd yn y band mae Elidir Jones ar y gitâr fas a llais a Myfyr Prys ar y drymiau. Ffurfiwyd y band hyfryd, annwyl a chellweirus hwn yn 2004 a nhw oedd enillwyr Brwydr y Bandiau yn 2005.

Ers hynny, mae’r bois wedi bod yn brysur iawn yn gwisgo colur, tynnu eu crysau, tynnu coes ac yn gigio’n galed ledled Cymru. Hyd yma, maen nhw wedi rhyddhau un sengl, ‘Talach Na’r Iesu / Nerth Dy Draed’ a hynny ar label Ciwdod. Y bwriad rwan ydy recordio albym dan ofan Dyl Mei. Enw’r albym fydd ‘Y Capel Hyfryd.’

Nod Plant Duw yn ôl Conor “yw cyrraedd pwynt lle mae pobl yn crio o hapusrwydd wrth glywed ein melodïau syml.”

Conor Martin - Gitar a llais,
Rhys Martin - Gitar a llais,
Elidir Jones - Gitar fas a llais,
Sean Martin - Corn
Myfyr Prys – Drymiau

Plant Duw

Plant Duw

Talach na Iesu / Nerth Dy Draed (Sengl) Ciwdod - 2006