Band arall sydd wedi rhyddhau sengl trwy label Ciwdod (beth fydde'r sin yn wneud hebddyn nhw?!) yw BOB. Dechreuon nhw jamio yn 2003 cyn sefydlu'u hunain yn fwy ffurfiol ar ddechrau 2004 pan ymunodd Sion 'Porn' Morris ā nhw. Hen enw'r band oedd Citizen Jones… diolch byth daeth BOB i'r meddwl! Gobaith BOB yw rhyddhau mwy o ddeunydd, albym o bosib, yn 2007.
Aelodau
Siôn Owen - llais / gitâr rythm Marsli Owen - bas / llais cefndir Dafydd Owen - drymiau
Siôn Morris - gitār flaen
BOB
Defaid (sengl) 2005, Ciwdod