Fel mae eu henw yn awgrymu, mae'r Poppies – band o Gaerdydd sy'n cynnwys aelodau o Aberystwyth ac Abertawe – yn creu cerddoriaeth pop-amgen, ac yn eu bodolaeth byr hyd yma maen nhw wedi sefydlu eu hunain fel un o brif fandiau'r sin Gymraeg. Owen Powell, cyn-aelod Catatonia, yw eu rheolwr, ac erbyn hyn mae nhw wedi rhyddhau un sengl, Dau Bys, ar label Ciwdod. Dangoswyd dipyn o ddiddordeb i’r band gan wahanol labeli, felly peidiwch a synnu eu gweld nhw’n arwyddo eleni.
The Poppies
Dau Bys (Sengl) Ciwdod - 2005