Un o fandiau mwyaf llwyddiannus ar y Sin Roc Gymraeg gyfoes yw Radio Luxembourg. Maen nhw'n dilyn traddodiad seicodelig y Gorkys a'r Furries ac mae'u harwr cerddorol, Euros Childs, hyd yn oed wedi cynhyrchu llawer o'r deunydd newydd fydd yn gweld golau dydd yn 2007.
Roedd nifer o aelodau Radio Lux yn wynebau cyfarwydd ar y sin Gymraeg o'r band Mozz, oedd hefyd yn cynnwys Sam sydd bellach yn canu gyda The Poppies, ond saethodd Radio Luxembourg i wir amlygrwydd ar yr SRG ar ôl i'w sengl cyntaf, Pwer Y Fflwer/Lisa Magic a Porva gael ei ryddhau ar Ciwdod yn 2005. Mae'r ddau drac yn glasuron Cymraeg bellach, ac yn ffefrynau pendant ymhlith criw a chynulleidfa Bandit.
Bu cyffro mawr pan ryddhaodd y band eu hail sengl, Os Chi'n Lladd Cindy, ar feinyl 7 modfedd ar Am, a'r fideo gwych aeth gyda fe ar Bandit. Mae'r band yn bwriadu rhyddhau dau EP yn 2007.
Radio Luxembourg
Cartoon Cariad (Sengl) Peski - 2007
Diwrnod Efo’r Anifeiliaid (EP) Peski - 2007
Os Chi'n Lladd Cindy (Sengl) AM - 2006
Pwer Y Fflwer / Lisa Magic a Porva (Sengl) Ciwdod - 2005