Sibrydion Yn eu harddegau cynnar, fe ffurfiodd y ddau frawd, Osian a Meilir Gwynedd, fand o’r enw Beganifs, ac yna fe newidion nhw eu henw i Big Leaves. Ar ôl blynyddoedd ar frig yr SRG, fe chwalodd y band 2003. Yn Eisteddfod Casnewydd, 2004, ganwyd Sibrydion gyda dau aelod yn unig – Meilir a Ffloss ond bellach, mae Osian a Rhys wedi ymuno. Fe wnaethon nhw ryddhau eu halbym, ‘JigCal’ yng Ngorffennaf 2005. Fe sylwch chi mai ‘Dafad Ddu’ oddi ar yr albym yna ydy cerddoriaeth agoriadol Bandit. Aelodau – Meilir Gwynedd – gitâr + llais Osian Gwynedd – drymiau + llais Rhys Roberts – bas Dan 'Ffloss' Lawrence – gitâr + llais
Sibrydion
JigCal - Albym - Gorffennaf 2005