Mared Lenny, gynt o Doli, yw Swci Boscawen. Aelodau eraill o’r band electropop yw David Wrench, Twm Champagne, Gruff Meredith (MC Mabon), Mike Richardson, Jinx, Chef Kwan a Huw Owen (Mr Huw).
Yn barod i’w henw mae dwy sengl ac albym. Heb amheuaeth, profa’r gan ‘Min Nos Monterey’ i fod yn ‘hit’ hefo DJs Cymraeg sydd eisiau llenwi’r llawr!
Yn bendant, un o uchafbwyntiau Swci yn 2007 oedd rhannu llwyfan â Rufus Wainwright yng nghanolfan y Mileniwm…ac ymddangos ar Bandit wrth gwrs!
Swci Boscawen
Swci/Popeth (Sengl) Rasp - 2005
Min Nos Monterey/Adar Y Nefoedd (Sengl) Rasp - 2006
Couture C'Ching (Albym) Rasp - 2007