Wyrligigs

Yn ôl eu tudalen MySpace, mae dylanwadau’r Wyrligigs yn cynnwys Y Ramones, y Sex Pistols, y Damned, Sham 69, Undertones a’r Buzzcocks. Ac yn dilyn traddodiad eu harwyr, mae’r Wyrligigs yn hoff o gordiau pwer (tua tri ohonnyn nhw, fel arfer) a distortion pedals. Os ydych chi’n hoff o gerddoriaeth wedi stripio lawr i’r elfennau hanfodol, ewch i weld perfformiadau’r triawd o Fethesda. Yn ogystal â’r sengl Rocars Cymraeg / Dave y Jynci ddaeth allan ar Ciwdod, mae ‘na draciau newydd ar eu tudalen MySpace. Mae eu fersiwn o Rhedeg i Baris yn werth clywed. Pync roc!

Myspace Wyrligigs

Wyrligigs

Wyrligigs

Dave yn Jynci / Rocars Cymraeg