Ffurfiwyd Clinigol ym Mhontypridd yn 2002 pan benderfynodd Aled Pickard (cyn DJ clybiau yn Llundain) a’i frawd Geraint Pickard, sydd â llais melfedaidd sy’n darllen newyddion BBC Radio Wales, fod angen rhoi bach mwy o sglein ym myd cerddoriaeth cyfoes Cymru. Gyda synths, caneuon bachog ac atgofion melys o’r ‘80au, aeth y ddau ati i greu fersiwn eu hunain o gerddoriaeth ‘pop rhywiol’. Mae eu dylanwadau yn amrywio o’r arloeswyr gwreiddiol Giorgio Moroder a Kraftwerk, i’r modern - Goldfrapp, Stuart Price a Ladytron.
Aelodau
Geraint Pickard – llais
Aled Pickard - Synths
Clinigol
Eiliad/Am Wastraff/Golau (sengl) Ciwdod - 2006