Dyma brosiect diweddara' Aron Elias, gynt o Pep Le Pew. Mae'r band hefyd yn cynnwys aelodau o Gola Ola - Rich ac Alex.
Mae dylanwadau roc, metal, reggae a hip hop yn cyfrannu at swn unigryw Y Rei. Gwefreiddiol yw'r gair i ddisgrifo eu hymddangosiadau ar Bandit yn y gorffennol, gyda'r band yn cyfuno gallu technegol anhygoel hefo perfformiadau egnïol a lliwgar.
Mi fydd albym cyntaf Y Rei - 'Lawr y Lôn Goch', ar gael ddechrau'r flwyddyn.
Y Rei
Psycho Prydferth (Ep)
Lawr y Lon Goch (Albym)