Cofi Bach a Tew Shady

Mae Tew Shady (Gronw Roberts) wedi bod yn rhan o’r Sin Gymraeg ers 1991. Mae e wedi bod yn cynhyrchu ers 1997 a chyn dechrau ar hip hop, bu’n cynhyrchu caneuon trance, breakbeat a drum’n’bass. Dechreuodd Cofi Bach (Kerry Walters) rapio yn mis Hydref 2004 fel arbrawf ar ôl cyfarfod â Tew Shady.

Cyn dechrau rapio bu’n chwarae gitâr i sawl band lleol. Mae'r caneuon i gyd yn gymysgedd unigryw o guriadau a geiriau cryf.
Daw pynciau’r caneuon o brofiadau personol, storïau o’r gorffennol a meddyliau lliwgar Cofi Bach a Tew Shady.

AELODAU
Tew Shady
– Rapio, Cynhyrchydd
Cofi Bach – Rapio

MySpace

Cofi Bach a Tew Shady

Cofi Bach a Tew Shady

Chwalfa Chwalfa (albym) 2006 - Boobytrap

bach a tew Bach a Tew (feinil 12 modfedd)2005 - Ciwdod