Cyn troi’n artist unigol, roedd Cate Le Bon yn arfer chwarae gyda’r band Alcatraz. Mae hi’n gallu chwarae’r gitâr, allweddellau, y delyn a’r fiolin. Mae ganddi lais hyfryd ac i’r dim i’w cherddoriaeth gwerin/gwlad a melodïau sy’n aros yn y pen. Mae Rich James, gynt o’r Gorky’s, a Huw Evans yn chwarae yn y band. Fis Tachwedd, bu Cate yn perfformio yn In The City yn Manceinion – sef yr ŵyl i gael eich gweld. Ar hyn o bryd, mae Cate yn gweithio ar albwm ac wedi bod ar daith gyda Gruff Rhys yn hyrwyddo ei ail albym unigon, Candylion.
Cate Le Bon
No One Can Drag Me Down (Sengl) 2007
Edrych Yn Llygaid ceffyl Benthyg (EP) 2008 - Peski