9 Bach

Tra roedd y gyflwynwraig a’r actores Lisa Jên Brown yn Lake Tahoe yn perfformio mewn cynhyrchiad o The Vagina Monologues, gofynnwyd iddi’n garedig a fyddai hi’n fodlon canu ychydig o ganeuon gwerin Cymraeg mewn gig elusen yng nghasino CalNeva, ar yr union lwyfan ble y bu Frank Sinatra’n canu lawer dydd yn ôl.

Damwain a hap ydyw, fod Lisa wedi taro ar fachgen o’r enw Martin Hoyland mewn bar yn San Francisco, doedd dim ond un peth amdani, sef gofyn iddo helpu i gyfansoddi gosodiadau newydd i’r caneuon traddodiadol yr oedd ganddi mewn golwg.

Fe anwyd 9 Bach, ac ymysg prosiectau eraill, mae Martin a Lisa, ynghyd ag Esyllt Glyn Jones ar y delyn, Ali Byworth ar y drymiau a Dan Swaine ar y bas wedi bod wrthi'n perfformio byth wedyn!

Maen nhw wedi perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ddwywaith yn olynol a hefyd yn cefnogi Gruff Rhys ar ei daith yn hyrwyddo Candylion. Lisa hefyd sy’n ymddangos yn y fideo gyda Gruff a’r Losinlew.

MySpace

9 Bach

9 Bach

Pontypridd/Y Gwydr Glas (Sengl) 2008

Yr Eneth Ga’dd ei Gwrthod – (Sengl)2008 - Gwymon