Cowbois Rhos Botwnnog

Tri brawd o Laniestyn yw Cowbois Rhos Botwnnog sy’n arbrofi gyda cherddoriaeth gwerin a rhoi ‘hillbilly punk’ i ni. Maen nhw wedi bod yn gigio’n galed dros y flwyddyn ddiwetha gan gynnwys perfformio yn Sesiwn Fawr a’r Eisteddfod. Ymddangosodd y Cowbois ar Bandit am y tro cynta fis Mawrth llynedd a pherfformio cân Ffrengig, hynod drawiadol, ‘Pressez Et Maintenez Mon Bouton.’ Maen nhw wedi bod yn cydweithio efo Dyl Mei ac newydd rhyddhau eu halbym hir ddisgwyliedig ar label Sbrigyn Ymborth/Slacyr. I-ha!

AELODAU

Iwan Huws - Prif Lais a Banjo
Dafydd Huws - Offerynau Taro Aled Huws - Bâs a Llais Cefndir

MySpace

Cowbois Rhos Botwnnog

Cowbois Rhos Botwnnog

Dawns y Trychfilod Dawns Y Trychfilod (albym) 2007 - Sbrigyn Ymborth