Ffurfiodd Ashokan yn Ysgol Llanhari ym 1997 ond mae’r aelodau wedi newid tipyn ers hynny. Yn 2002, ymunodd Rhys Lewis (Slug i’w ffrindiau) a Rhys Jones (Donut i’r ffrindiau) a’r band roc trwm. Fe adawodd Alun (Alun i’w ffrindiau!) yn 2005 a Donut yw prif leisydd y band bellach. Mae’r band wedi dechrau chwarae gigs unwaith eto ar ôl 2006 dawel iawn a gobeithio recordio albym arall i’w cyfeillion yn fuan. Mae Bandit yn caru roc trwm. Aled Davies - Gitâr Gethin Davies – Allweddell/Sacsoffon Marc Real - Bâs Rhys Jones - Gitâr/Llais Rhys Lewis – Drymiau Pawb – gweiddi!
Ashokan
Diolch am Ddal y Gannwyll (albym) 2004 - Recordiau Dockrad
Ashokan 2 (albym) 2005 - Recordiau Dockrad