Ffurfiwyd y pedwarawd o Wynedd yn 1998, ond wedi gadawiad dau, ac ymaelodaeth dau arall, y band bellach yw;
- Mei Emrys:
Prif Lais a Gitar Rhythm
- Gerallt Hughes:
Drymiau
- Emyr P. Davies:
Gitar Fas a Llais Cefndir
- Dafydd Jones:
Gitar Flaen
Daeth Vanta yn drydydd yng nghystadleuaeth Can i Gymru 2005 gyda’r gân ‘Enfys Bell’, ond heb os, eu cân mwyaf adnabyddus yw ‘Tri mis a diwrnod’, sydd i’w chlywed yn aml ar Radio Cymru hyd heddiw.
Dros y blynyddoedd, rhyddhawyd tri EP dan y label RASP, ac eleni, gobeithiant ryddhau albym newydd sbon danlli!
Vanta
Pedair Stori Fer (2001) Ep – label RASP
Dagrau Llawenydd (2002) Ep – label RASP
Caneuon o’r Gwaelod (2006) Ep – label RASP