Hwyrach mai Yucatan yw’r unig fand ar y sin Gymraeg sy’n cynhyrchu ol-roc – genre cerddorol llawn symudiadau annisgwyl a syniadau uchelgeisiol wedi ei ddylanwadu gan, ymhlith eraill, ffrindiau Dilwyn o Wlad yr Ia, y byd enwog Sigur Ros. Yn ogystal a cherddoriaeth hardd a soffistigedig, ma prif leisydd Yucatan, Dilwyn Llwyd, hefyd yn hoff o gynnwys gwaith celf gyda’i recordiau. Mae sengl gyntaf Yucatan allan bellach ac yn cynnwys gwaith celf unigol ac unigriw i bob CD.
Yucatan
Yucatan (Albym) 2007 - Slacyr