Gwawr Loader yw'r "Gwawr" hon, yn wreiddiol o Fynwent y Crynwyr ger Merthyr, ond ar hyn o bryd yn astudio Cymraeg a Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dechreuodd y record gyda Richard Griffiths (prif gyfansoddwr y band 'The Afternoons') yn clywed demo ohoni'n canu. Ychydig wedi hyn, bu i'r ddau ohonon nhw gyfarfod a phenderfynu llunio record a oedd yn adlewyrchu eu dylanwadau cerddorol. Canlyniad hyn oedd 'Yfory', 'Codi Gyda'r Haul' a 'Blwyddyn Newydd'.
Gwawr Loader - prif lais;
Richard Griffiths - gitar;
Peter Morgan - dryms, recorder, glockenspiel;
Jason Huxley - gitar;
Sarah Ellison - bas/bass, cello;
Paul Rapi - piano, Hammond;
Ben Thomas - flugal horn;
Jo Parkhurst - ffidl/violin;
Nathan Stone - cello;
Andrew Walters - ffidl/violin;
Gwawr
Sengl 'Yfory', 'Codi Gyda'r Haul', Recordiau TPF