Haydon Hughes yw’r Pencadlys. Haydon Hughes yw Pappy. Haydon Hughes yw Klube. Mae Haydon Hughes hefyd yn un hanner o Y Seindorff - Geraint Ffrancon, ei ffrind a chyd-alltud ym Mryste, sy hefyd yn aml-enwedig (Stabmaster Vinyl, Recordiau Safon Uchel, Blodyn Tatws) yw ail hanner y prosiect hwnnw. Beth bynnag yr enw, mae Haydon yn cynhyrchu cerddoriaeth electroneg soffistigedig gyda dylanwadau Hip Hop a Drum n Bass yn cyfrannu i’r swn, yn ogystal ag Ambient ag Electronica, sy falle’n ddisgrifiad gwell o’i arddull gerddorol. Haydon Hughes – botymau, teclynnau, ffugenwau.
Pappy, Klube, Pencadlys