The Heights

Enw gwreiddiol The Heights oedd Gogz ond ar ôl arwyddo efo Best Before Records yn 2005, fe newidion nhw i The Heights (addas iawn wrth gwrs gan bod tri ohonyn nhw’n dod o Lanberis, cartref mynydd uchaf Cymru!). Tri yn unig oedd yn y band pan ffurfion nhw yn 1998 ond yna fe ymunodd Pearse Macintyre o Lundain â nhw yn 2004. Maen nhw wedi mynd o ymarfer yn Neuadd bentref Bethel, i chwarae eu gig cyntaf yng Nghwm y Glo, i fod yn chwarae yng Nghanada, Efrog Newydd, Texas a Japan! Ond yn 2007, daeth The Heights i ben a bellach mae Owain wedi cychwyn band newydd o’r enw Mudflaps.

www.theheightsmusic.com

MySpace The Heights

The Heights

The Heights

Long Way Home - Best Before 2006 (sengl)

Jamaica Beer Eyes - Best Before 2006(sengl)

Bad News - Best Before 2006(EP)