Taith C2/Bandit

Mae mis Hydref ar ei ffordd ac mae tri pheth da amdano. Un – lliwiau’r Hydref, dau – mae Bandit yn ôl ar eich sgrin a tri – mae Taith C2 Bandit yn ymweld ag ugain o ysgolion uwchradd Cymru! Yn ymuno â chriw C2 a Bandit eleni bydd Y Rei ac mi fydd sawl band arall yn cael y cyfle i rannu llwyfan â nhw. Ar y daith fydd Magi Dodd, Glyn Wise, Lisa Gwilym a’n Huw Evans bach ni a bydd gweithdai cerddoriaeth yn cael eu cynnal hefyd. Dyma’r dyddiadau a rhestr o’r ysgolion....hwREI i’r Hydref!

Taith C2/Bandit

Taith C2/Bandit

Dydd Llun 1 Hydref - Ysgol Rhydywaun, Hirwaun
Dydd Mawrth 2 Hydref - Ysgol y Strade, Llanelli
Dydd Mercher 3 Hydref - Ysgol Maes yr Yrfa, Cefneithin
Dydd Iau 4 Hydref - Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman
Dydd Gwener 5 Hydref - Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt
Dydd Llun 8 Hydref - Ysgol Uwchradd Tywyn
Dydd Mawrth 9 Hydref - Ysgol Ardudwy, Harlech
Dydd Mercher 10 Hydref - Ysgol Glan y Mor, Pwllheli
Dydd Iau 11 Hydref - Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes
Dydd Gwener 12 Hydref - Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth
Dydd Llun 15 Hydref - Ysgol Brynrefail, Llanrug
Dydd Mawrth 16 Hydref - Ysgol David Hughes, Porthaethwy
Dydd Mercher 17 Hydref - Ysgol Hugh Owen, Caernarfon
Dydd Iau 18 Hydref - Ysgol Tryfan, Bangor
Dydd Gwener 19 Hydref - Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug
Dydd Llun 22 Hydref - Ysgol Gyfun Ystalyfera, Ystalyfera
Dydd Mawrth 23 Hydref - Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun
Dydd Mercher 24 Hydref - Ysgol Uwchradd Aberteifi
Dydd Iau 25 Hydref - Ysgol Uwchradd Aberaeron
Dydd Gwener 26 Hydref - Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri