Maffia Mr Huws

Band o Fethesda ydy Maffia Mr Huws - un o fandiau mwyaf poblogaidd yr 80au.
Dechreuodd y band yn 1978 tra'r oedden nhw dal yn yr ysgol, ond dan yr enw Weiran Bigog.
Ar drothwy'r 80au, roedden nhw’n chwarae dros 100 o gigs y flwyddyn ac yn byw ar gyflog y band.
Enillodd Maffia y wobr ‘Prif Gr?p Roc’ dair gwaith yn olynol yn Noson Wobrwyo Sgrech.
Daeth pethau i ben yn raddol i Maffia pan bu farw Alan Edwards, Cofi Dre Maffia, mewn damwain yn Llydaw. Ond, ni gyhoeddodd Maffia eu bod yn dod i ben yn swyddogol.
Yn ddiweddar mae'r rocars wedi chwarae mewn sawl gig; Pesda Roc a Sesiwn Fawr Dolgellau yn eu mysg.
Rhai o'u caneuon mwyaf adnabyddus yw Gitâr yn y To, Ffrindiau a Hysbysebion.

Aelodau – Neil Williams – llais / gitâr
Hefin Huws – llais / gitâr
Sion Jones - gitâr
Deiniol Morris - bas
Gwyn Jones - drymiau

MySpace Maffia Mr Huws

Maffia Mr Huws

Maffia Mr Huws