Bandit247

BANDIT HAF 2008

Rhaglen 6 – Gwyl Y Dyn Gwyrdd

Bydd y ddau Huw yn teithio i Aberhonddu'r wythnos hon i ymweld â gwyl sy'n dathlu ei chweched pen-blwydd eleni, Gwyl y Dyn Gwyrdd.

Ymhlith yr artistiaid fu'n perfformio ar lwyfannau'r Wyl oedd y Super Furry Animals, Brigyn, Cate Le Bon, Gwyneth Glyn, Threatmantics, Radio Luxembourg a Heather Jones. Bu band newydd yr actor llwyddiannus Rhys Ifans, The Peth, hefyd yn perfformio ar noson olaf Gwyl y Dyn Gwyrdd. Cawn ddetholiad o'r digwyddiadau heno ar y rhaglen.

Rhaglen 5 – Ffermwyr Ifanc Ysbyty Ifan yn Sioe Llanelwedd

Yr wythnos hon, mae Bandit ar wyliau yn sioe Llanelwedd yng nghwmni criw gwyllt, cyfeillgar, direudus ac hoffus - Ysbyty Ifan. Ar eu hoi bach blynyddol, bydd y ffermwyr ifanc yn creu hafoc ar y maes ieuenctid yng nghwmni Huw horni Chiswell, a’r hyfryd Elin Fflur; cystadlu’r fr?d yn y cneifio, lapio gwlân, cân i Gymru a’r canllaw bras; chwilio am gariadon yng nghanol y da byw a'r defaid; a chant a mil o bethau eraill! Ond, os nad yw hyn yn ddigon i’r unigolion barus yn ein plith...mae sî bod Borat am ddangos ei wyneb, ei mankini...ac ychydig mwy na’r disgwyl! Felly, RHYBUDD! Nid yw’r rhaglen yma’n addas i’r sawl sydd ddim am eu dallu na’u byddaru.

Rhaglen 4 – Eisteddfod Genedlaethol 2008 (Rhan 2)

Mae’r bedwaredd rhaglen o Bandit Haf yn dod o hanner olaf wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch, gyda chyfweliadau a pherfformiadau byw o Faes B a Chlwb Ifor Bach. Yr wythnos hon, gallwch weld brenhines y jwngl, Cerys Matthews, ac un o fandiau mwyaf poblogaidd y SRG, Sibrydion, yn perfformio yn dom hyfryd oren Bandit, a noson hip hop Clwb Ifor Bach, gyda Dybl L, Rufus Mufasa a MC Saizmundo ar y meic.

Hefyd bydd y camerâu yna i gael cip olwg ar noson olaf Maes B, gyda Cowbois Rhos Botwnnog, Gwibdaith Hen Frân a Genod Droog, yn ogystal â stwff gan Radio Luxembourg, MC Mabon, Frizbee a Swci Boscawen.

A’r newyddion gorau ydy eich bod yn cael rhaglen AWR o hyd yng nghwmni ein Huwiau bach ni!

Nos Iau, 21.45 - S4C

Rhaglen 3 – Eisteddfod Genedlaethol 2008

Ar rhaglen 3, bydd y ddau Huw yn cyflwyno holl hwyl a bwrlwm penwythnos cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch. Bydd cyfweliadau a pherfformiadau byw o Faes B a Clwb Ifor Bach gan Cate Le Bon, Gwyneth Glyn, Gai Toms yn y dome, Gareth Bonello, Jen Jeniro, Random Elbow Pain, Brwydyr Bandiau Maes B, Mr Huw a Plant Duw. Bydd y ddau hefyd yn sgwrsio ag ymwelwyr i'r Steddfod ac yn edrych ymlaen at benwythnos arall o gigs gwych.

Nos Iau, 21.30 - S4C

Rhaglen 2 – Gwyl Gardd Goll

Mae ‘na ddwsinau o wyliau cerddorol bach diddorol wedi ymddangos yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha gan gynnwys Gwyl Gardd Goll, diwrnod o gerddoriaeth Gymraeg hyfryd yn harddwch Parc Glynllifon. Ymhlith yr artistiaid sy’n chwarae’r wyl eleni mae Yucatan, Yr Ods, Georgia Ruth Williams, Aron Elias a Derwyddon Dr Gonzo. Bu Bandit yna yn mwynhau’r haul a’r cerddoriaeth, gan ddod a’r uchafbwyntiau i chi, Nos Iau yma, ar S4C.

Rhaglen 1 – Y Sioe Frenhinol

Pwy sy'n cofio gig y Sioe Frenhinol llynedd? Mwd, gwynt, glaw, dwr, mwd, mwd, mwd a mwy o fwd.

Eleni bu'r tywydd yn… weddol! Hwre, medde Bandit, mi wnaiff hynny'r tro i ni. Dau o wynebau mwyaf cyfarwydd y byd canu Cymraeg sy'n darparu'r heulwen gerddorol, Huw Chiswell ac Elin Fflur. Leitars yn yr awyr, bawb, am ffordd berffaith i orffen diwrnod o gystadlu amaethyddol. Mwwwwwwwwwwww!

Gallwch weld perfformiadau gan Huw ac Elin a holl helyntion y Sioe ar S4C, nos Iau am 22.45yh gydag ail ddarllediad nos Wener am 11.30yh ar S4C ac os fyddwch chi dal yn y Sioe, peidiwch a phoeni – cyfle i’w wylio eto nos Fercher, 30ain o Orffennaf ar S4C am 21.30yh.

Dewch i mewn, ymlaciwch a mwynhewch bandit247. Y lle am y newyddion diweddaraf, gigs gorau Cymru a gwybodaeth am fandiau yr SRG a popeth sydd i’w wybod am Bandit!

Bydd Wych

Artistiaid →

Rocars Cymraeg

Artistiaid →

Rhestr Gigs →