Bandit247 - Newyddion
Albym Cate Le Bon o'r diwedd
<description>Mae'n teimlo fel ein bod ni wedi bod yn aros am albym cyntaf Cate Le Bon ers blynyddoedd, ond mae’r oedi ar ben, o'r diwedd. Mae Me Oh My ar fin dod allan ar lebel newydd sbon Gruff Rhys, sef Irony Bored, ac wedi ennill sylw trwy'r wasg gerddoriaeth, o'r Guardian i'r NME. Mae na wybodaeth pellach ar wefan Cate, wrth gwrs, ac ma fe'n werth chwilio am fideo Hollow Trees House Hounds wrth i chi chwilio - ma fe'n wych!</description>
Trac Sain: John Cale a SFA yng Nghaerdydd
<description>Rhywle rhwng gwyl ffilm a gwyl gerddoriaeth mae gwyl Soundtrack, pump diwrnod o gerddoriaeth byw, ffilmiau gwych a digwyddiadau difyr yn ymwneud a’r berthynas rhwng cerddoriaeth a ffilm, i gyd yn digwydd yng Nghaerdydd, o’r 18fed i’r 22ain o Dachwedd. Mae yna fanylion pellach am westeion arbennig a ffilmiau a fydd yn cael eu arddangos ar wefan yr wyl, sef http://www.soundtrackfilmfestival.com, ond mae yna ddau uchafbwynt cerddorol sy’n werth nodi yma, sef y Super Furry Animals yn perfformio yn y Gyfnewidfa Lo, a’r arloeswr John Cale yn perfformio ei glasur o album, Paris 1919, yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf – eto yn y Gyfnewidfa Lo. </description>
Falco yn dweud ei ddweud
<description>Ymddangosodd hysbys yn y Guardian ar y 28ain o Fedi oedd yn cynnwys dim ond logo UK Music, corff sy'n bodoli i gynrychioli'r diwydiant cerddoriaeth trwy gydol Prydain, a thrawsgrifiad llawn o flog a'i ysgrifennwyd nol yn mis Ebrill gan Andy 'Falco' Falkous o'r band roc o Gaerdydd, Future Of The Left. Mae'r blog, sy'n ddoniol, yn flin ac yn llawn anobaith, yn son am ddigalonrwydd y band wrth ddarganfod fod eu ail albym wedi ffeindio'i ffordd i'r we cyn iddo gael ei ryddhau yn swyddogol, ac wedi troi mewn i destun trafod ar wefan y Guardian ag eraill. Mae'r hysbys i'w weld ar  Wefan y Guardian </description>
Pethe sy'n mynd Bang yn y nos!
<description>Ma yna wyl newydd hynod o gyffroes ac uchelgeisiog yn cael ei drefnu ym Mangor eleni sy'n addo i ddod a naws digwyddiadau fel Swn ac In The City i ogledd Cymru. Bang Bangor yw’r enw mae'r trwfnwyr, sef Aled Ifan, Llio Prydderch Huws a Bethan Lloyd, wedi dewis ar gyfer y 'dathliad cerddorol a chelfyddydol', fel y maent yn ei ddisgrifio. Yn fras, bydd Hydref y 28ain i'r 31ain yn gyfle i weld gigs mewn amryw o leoliadau ym Mangor, gyda artisiaid yn cynnwys James Yorkston, Race Horses, Jen Jeniro, Sweet Baboo, Gallops, Colorama, Masters In France a The Keys wedi eu cadarnhai yn barod. I glywed mwy, ewch draw i www.bangbangor.com. </description>
Cadw Swn
<description>Pwy sy'n gweld ishe'r haf yn barod? Wel ma Huw Stephens ag eraill yn deall eich teimladau yn iawn ac wrthi'n trefnu y trydydd wyl Swn yng Nghaerdydd ar yr 22ain, 23ain a 24ain o Hydref. Ymhlith y bandiau a fydd yn perfformio yn yr wyl eleni mae Daedelus, Marina And The Diamonds, Dananananakroyd a llwythi o fandiau o Gymru fel Cate Le Bon, Los Campesinos, The Death Of Her Money, Race Horses, Promatics, Yr Ods, Right Hand Left Hand, Cymdeithas Yr Hobos Unig, Nos Sadwrn Bach, Strange News From Another Star a John Grindell! Mae bandiau arddwrn ar werth nawr a rhestr hiiiiir o fandiau ar  wefan Swn.</description>
Cerys ar daith
<description>Mae hi wedi bod yn gyfnod prysur i Cerys Matthews gyda’u rhaglenni radio a theledu, ond mae hi bellach nol yn gwneud yr hyn mae hi’n ei wneud orau, sef canu a chreu cerddoriaeth hyfryd. Mae ei albym newydd, Don’t Look Down, allan ar y 5ed o Hydref. Neu, i fod yn fanwl gywir, mi fydd dwy fersiwn o’r CD yn cael ei ryddhau, un yn fersiwn Saesneg a’r llall yn y Gymraeg. I gydfynd a hyn, ma Cerys ar daith trwy mis Hydref, gan gynnwys dyddiadau yn Aberteifi, Aberdaugleddau, Harlech, Bae Colwyn, Abertawe ac Aberhonddu. Mae’r dyddiadau i gyd wedi eu rhestri yn ein tudalen gigs, ac wrth gwrs ar   wefan Cerys. </description>
Yr haf ddim drosodd eto!
<description>Mae’n shwr ei fod yn teimlo fel pe bai’r haf ar ben dros lawer o Gymru bellach ond mae Bandit yn ffyddiog fod gan 2009 ambell belydryn haul arall i’w gynnig – gan gynnwys gwyl haf arall sef Wa Bala, yn ol unwaith eto am benwythnos o sbri ar yr 11eg o Fedi. Mae’r artistiaid fydd yn perfformio yn yr wyl eleni yn cynnwys Elin Fflur, Sibrydion a Derwyddon, ac mae’r holl wybodaeth   ar wefan yr wyl. </description>
Gwersi gitar gyda un o enwogion cerddoriaeth Gymraeg
<description>Ma'n rhaid i bob rociwr ddechre'n rhywle. Os oes gyda chi freuddwyd o 'nwdlo' fel Slash, Hendrix neu Aron Elias, ond i chi heb faestroli'r newidiad cymhleth yna o C agored i G, be am gofrestri am gyfres o wersi gitar gyda neb llai na Heather Jones? Mae'r cwrs wedi ei aneli ar gyfer dechreuwyr, a'n rhedeg o 7 tan 9 yn Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd, pob nos Fercher o'r 30ain o Fedi. Ebostiwch aweldavies@mentercaerdydd.org am wybodaeth pellach neu i gofrestri.</description>
O nain fach
<description>Roedd na adolygiad gwych o CD newydd 9bach i'w weld yn y Guardian wythnos dwetha, sydd bellach lan ar   wefan  y papur.  Gallwch chi ddal y band ar y cyntaf o Fedi yn Llundain a'r 3ydd yn Buffalo Bar Caerdydd.</description>
Haf 2009: Un Parti Hir
<description>Mae na lwythi o wyliau cerddorol gwych dros yr haf eleni, gyda manylion dau wyl arall bellach wedi eu cyhoeddi. 
Penwythnos o gerddoriaeth a digwyddiadau yn Nhafarn Y Madryn yn Chwilog, yw Chwilgig, a fydd yn rhoi llwyfan i Yr Ods, Gwibdaith Hen Fran, Mr Phormula a Gai Toms ymhlith eraill dros benwythnos ola Awst - sef penwythnos gwyl y banc, wrth gwrs! 
Ar yr 11eg a 12fed o Fedi, Llanrwst fydd yn partio gyda Gwyl Gwydir, achlysur newydd yng nghalendr y sin roc Gymraeg. Yn perfformio yn y Legion a'r New Inn fydd Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro, Mr Huw, Race Horses, Cowbois Rhos Botwnnog, Euros Childs a mwy. </description>
BOB yn gweld golau dydd
<description>Pwy sy'n cofio sengl cynnar BOB, Defaid, a ddaeth allan ar Ciwdod nol yn 2005? Mae'r band wedi bod yn dawel ers hynny, gyda'r drymiwr Dafydd Nant yn ymddangos gyda The Peth a Sibrydion yn fwy aml na'i fand cyntaf dros y misoedd diwethaf. Ma hyn i gyd ar fin newid gyda'r newyddion y bydd BOB yn ryddhau albym lawn yn gig nos Wener Cymdeithas Yr Iaith yn yr Eisteddfod. Celwydd Golau Dydd yw enw'r CD, a gafodd ei recordio gyda Kris Jenkins a fydd allan ar label Sbrigyn Ymborth. </description>
Last Republic ar y Ffordd i V?
Parti Penblwydd Prifysgol Bangor
<description>Tasech chi yn dathlu eich penblwydd yn 125, pwy fysech chi yn gwahodd i bartio gyda chi? Doctoriaid, nyrsis a teulu agos, falle? Ddim Prifysgol Bangor. Mae eu dathliadau nhw yn cynnwys noson gyda Only Men Aloud ac, ar y 17eg o Hydref, gig arbennig gyda'r Super Furry Animals. Os ydw i yn partio fel na pan dwi'n 125, fydda i yn ddigon hapus! Mae yna wybodaeth pellach am docynnau ag ati draw ar  wefan Prifysgol Bangor .</description>
Yucatan yn Fawr yn Japan?
<description>Mae label Happy Prince wedi ryddhau album Yucatan, sef Yucatan, yn Siapan. Mae na dri trac ychwanegol ar y fersiwn yma, a gwaith celf newydd. Nid dyma'r albym Cymraeg cyntaf i fynd ar werth yn y wlad - bu Bandit allan yna gyda Jakokoyak wedi i'w CD gael ei ryddhau yn Siapan. Bydd EP newydd Yucatan allan yn nes ymlaen yn 2009. </description>
Derwyddon yn Stoncio Trwy'r Haf
<description>Stonk! yw enw albym cyntaf Derwyddon Dr Gonzo, casgliad o ganeuon lliwgar ac, i ddyfynnu datganiad Copa (sef y label sy'n cyhoeddi cynyrch y band), 'siwper ffres, siwper ffynci a ffandabidosi'. Eich geiriau chi yn union, ma'n shwr. Mae'r crynoddisg yn cynnwys holl ffefrynnau'r band, fel KO a Madrach, yn ogystal a sengl newydd Dangos Dy Wiwar a ffefrynau byw fel Raptil. 